Cogau
Cogau (teulu o adar) Amrediad amseryddol: Ëosen - Holosen, 34–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Cog Guira (Guira guira) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cuculiformes |
Teulu: | Cuculidae |
Teiprywogaeth | |
Crotophaga ani Linnaeus, 1758 | |
Genera | |
Around 26, see text. |
Teulu o adar ydy'r cogau (Lladin: Cuculidae, yr unig dacon yn yr urdd Cuculiformes.[1][2][3]
Mae'r teulu'n cynnwys y Gog cyffredin (Cuculus canorus), y Rhedwr (Geococcyx californianus), y Cöel (Eudynamys scolopacea), y Malkoha, y coaid (e.e. y Coa glas) a'r Anïaid (e.e. yr anïaid llyfnbig).
Adar main o faint canolig ydy'r cogau. Mae'r rhan fwyaf yn byw mewn coed, gydag ychydig o'r teulu'n byw ar y llawr neu'r ddaear. Maen nhw wedi'u dosbarthu ledled y Ddaear, ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n drofannol. Pryfaid yw eu bwyd arferol, a mân anifeiliaid eraill yn ogystal â ffrwyth. Mae llawer ohonyn nhw'n barasytig - yn dodwy eu hwyau yn nythod adar eraill; mae llawer ohonyn nhw, fodd bynnag, yn magu eu cywion eu hunain.
Teuluoedd
golyguRhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Coa Verreaux | Coua verreauxi | |
Coa troedgoch | Coua reynaudii | |
Cog alarus | Cacomantis merulinus | |
Cog ddulas | Chrysococcyx xanthorhynchus | |
Cog didric | Chrysococcyx caprius | |
Cog efydd Gould | Chrysococcyx russatus | |
Cog efydd Horsfield | Chrysococcyx basalis | |
Cog efydd euraid | Chrysococcyx lucidus | |
Cog efydd fechan | Chrysococcyx minutillus | |
Cog efydd fraith | Chrysococcyx crassirostris | |
Cog efydd yddfgoch | Chrysococcyx ruficollis | |
Cog emrallt | Chrysococcyx cupreus | |
Cog gynffonhir dywyll | Cercococcyx mechowi | |
Cog gynffonhir gyffredin | Cercococcyx olivinus | |
Cog gynffonhir mynydd | Cercococcyx montanus | |
Cog hirbig | Chrysococcyx megarhynchus | |
Cog prysgoed | Cacomantis variolosus | |
Cog werdd frech | Chrysococcyx maculatus | |
Cog winau | Cacomantis sonneratii |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ericson, P.G.P. et al. (2006) Diversification of Neoaves: integration of molecular sequence data and fossils Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback. Biology Letters, 2(4):543–547
- ↑ Hackett, S.J. (2008). "A Phylogenomic Study of Birds Reveals Their Evolutionary History". Science 320 (5884): 1763–1768. doi:10.1126/science.1157704. PMID 18583609.
- ↑ Jarvis, E.D. (2014). "Whole-genome analyses resolve early branches in the tree of life of modern birds". Science 346 (6215): 1320–1331. doi:10.1126/science.1253451. PMID 25504713. http://www.sciencemag.org/content/346/6215/1320.abstract.