Cnapan
Gêm rhwng dau bentref oedd cnapan; gellir ei disgrifio fel y ffurf werinol o rygbi neu bêl-droed a arferai gael ei chwarae ledled Cymru. Defnyddid pêl bren fechan wedi'i hiro gyda saim, ei gollwng hanner ffordd rhwng y ddau bentref ac yna ceisiwyd ei chario i gôl y gwrthwynebwyr e.e. eglwys neu goeden. Ni wyddys y rheolau'n iawn ac mae'n bosibl nad oedd llawer ohonynt! Ceisiwyd atal y cnapan oherwydd y betio a'r trais a oedd yn gysylltiedig a'r gêm.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig; cyhoeddwyd 2008 gan Wasg Prifysgol Cymru; golygydd: John Davies.