Caer Lêb
Mae Caer Lêb yn amddiffynfa neu sefydliad o Oes yr Haearn gerllaw Brynsiencyn yn ne-orllewin Ynys Môn.
Math | safle archaeolegol, heneb gofrestredig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1819°N 4.2868°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN014 |
Mae dau glawdd pridd gyda ffos rhyngddynt yn amgylchynu darn mwy neu lai hirsgwar o dir. Mae'r clawdd mewnol yn gyfan, a gellir gweld y fynedfa ar yr ochr ddwyreiniol. Credir fod wal cerrig wedi bod ar ben y clawdd yma. Er gwaethaf y cloddiau a'r ffos, mae'r safle ar dir gwastad ac ni fyddai'n hawdd ei amddiffyn; awgrymwyd mai er mwyn statws yr oedd y cloddiau.
Bu cloddio ar y safle yn 1866, a chafwyd hyd i olion tŷ crwn a nifer o adeiladau hirsgwar. Cafwyd hyd i grochenwaith o'r ail, drydedd a'r bedwaredd ganrif, yn awgrymu fod pobl yn byw ar y safle yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r dde yn syth ar ôl y troead wrth adael Brynsiencyn ar y briffordd A4080 i gyfeiriad Niwbwrch.
Llyfryddiaeth
golygu- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)