Bunscoill Ghaelgagh

Ysgol gynradd cyfrwng Manaweg ym mhentref Balley Keeill Eoin, (Saesneg St John's) ar Ynys Manaw yw Bunscoill Ghaelgagh (Cymraeg: ysgol gynradd Manaweg). Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 2001. Yn 2012, roedd 70 o ddisgyblion yn yr ysgol.[1] Ers 2011, dyma'r unig ysgol yn y byd ymhle addysgir plant drwy gyfrwng y Fanaweg yn unig sy'n caniatáu iddynt ddysgu'r iaith i ruglder.[2] Wedi iddynt gyrraedd oed gadael yr ysgol, gallant fynychu Ysgol Uwchradd QEII neu'r ysgol uwchradd agosaf yn y dalgylch, ymhle maent yn gallu astudio TGAU yn y Fanaweg o 12 oed.

Bunscoill Ghaelgagh
Sefydlwyd 2001
Math Ysgol gynrad Fanaweg
Cyfrwng iaith Manaweg
Pennaeth Julie Matthews
Lleoliad Balley Keeill Eoin, Ynys Manaw
Rhyw cymysg
Gwefan http://www.sch.im/bunscoill
Yn golygu Bunscoill Ghaelgagh

Mae'r ysgol yn rhan o gontiniwm addysg Manaweg sy'n dechrau gydag ysgol feithrin, Mooinjer veggey sydd hefyd wedi ei lleoli yn adeilad yr ysgol.[3]

Yn 2013 darlledwyd rhaglen am ddiwrnod yn mywyd yr ysgol oedd yn dangos rhesymau rhieni dros ddanfon eu plant i'r ysgol a chip-olwg ar wersi yn y dosbarth.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Manx School celebrates Archifwyd 2014-02-02 yn y Peiriant Wayback Isle of Man News - MTTV; 8 Mawrth, 2012
  2. "A Miscellany on the History, Culture and Language of the Isle of Man" Archifwyd 2007-08-08 yn y Peiriant Wayback, Skeealyn Vannin, Journal of the Genealogical Society of Ireland, Cyf. 7, #2 (2006)
  3. "Why choose 'Mooinjer Veggey' as your Nursery or School?". Gwefan Mooinjer Veggey. Cyrchwyd 2022-04-05.
  4. Nodyn:Https://www.youtube.com/watch?v=6rUEZ8A-678
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Manaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato