Beulah, Powys

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Treflys, Powys, Cymru, yw Beulah. Gorwedd y pentref ar lan ffrwd fechan Afon Cammarch ar briffordd yr A483, tuag 8 milltir i'r de-orllewin o dref Llanfair-ym-Muallt. Poblogaeth: 350 (2001).

Beulah
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreflys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1485°N 3.5813°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Beulah (gwahaniaethu).
Y bont ar Afon Cammarch, Beulah

Ceir tafarn a garej gyda siop yn y pentref. Mae eglwys y plwyf, Eglwys Oen Duw, a godwyd yn 1867, yn gorwedd tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o Beulah.

I'r gogledd a'r gorllewin ceir bryniau Elenydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.