Bedd Emlyn
Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Bedd Emlyn, yng nghymuned Clocaenog, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ052532. Pant sydd yma bellach, ers i archaeolegwyr gloddio'r lle yn 1854, sy'n mesur 8 wrth 1 metr. Safai maen hir gydag ysgrifen ogham arni ar un cyfnod; mae'r garreg, bellach, wedi'i symud i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE201.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.
Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]
Gweler hefyd
golyguMathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-06.