Bashō
Bardd o Japan oedd Matsuo Bashō (1644 - 28 Tachwedd 1694), a oedd y mwyaf o'r beirdd cerddi haiku yn llenyddiaeth Siapaneg. Fe'i ganwyd yn 1644 yn ninas Uedo, rhanbarth Iga. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a chasglwyd ei gerddi mewn sawl blodeugerdd Siapaneg gyfoes.
Bashō | |
---|---|
Ffugenw | 甚七郎, 甚四郎, 俳聖 |
Ganwyd | 金作 1644 Lle geni Basho Okina |
Bu farw | 28 Tachwedd 1694 Midōsuji |
Man preswyl | Guan Canna, 'Cartrefi Hudol', Lle geni Basho Okina |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Oku no Hosomichi, Gêm y Gragen, Teithiwr Nawdd, Frog Poem |
Arddull | haikai |
Cartre'r teulu | Tref Tsui |
Mudiad | Shōfū haikai |
Ei waith mwyaf cyfarwydd y tu allan i Siapan yw'r gyfres o lyfrau taith byr, sy'n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth, a ysgrifennodd yn ystod rhan olaf ei oes. Maent yn cynnwys Oku no Hosumichi ('Y Llwybr Cul i'r Gogledd Eithaf'), Nozarashi Kikō ('Cofnodion Sgerbwd Agored i'r Tywydd'), Kashima Kikō ('Ymweliad â Kashima'), Oi no Kabumi ('Cofnodion Cod Taith Treuliedig') a Sarashina Kikō ('Ymweliad â Sarashima').
Llyfryddiaeth
golygu- Noboyuki Yuasa (cyf.), Bashō: The Narrow Road to the Deep North and other Travel Sketches (Llundain, 1968)