Baner Botswana
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Botswana ar 30 Medi 1966 yn sgil annibyniaeth y wlad ar Brydain.[1] Mae gan y faner faes glas golau gyda stribed du llorweddol ar draws ei chanol gydag ymyl wen iddo.[2] Mae symbolaeth y lliw glas yn seiliedig ar yr arwyddair cenedlaethol, pula, gair sy'n golygu glaw neu ddŵr ac sydd ag ystyr o'r bywyd a ddaw ohono.[1] Mae lliwiau'r stribed yng nghanol y faner yn symboleiddio heddwch rhwng y mwyafrif du a'r lleiafrif gwyn ym Motswana. 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1][3]
Mae'r faner yn annhebyg i'r mwyafrif o faneri cenedlaethol yn Affrica gan nad yw'n defnyddio'r lliwiau pan-Affricanaidd nac ychwaith lliwiau'r brif blaid wleidyddol.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Botswana (Flags of the World)