Teipiadur

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:24, 22 Mehefin 2010 gan Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)

Peiriant neu ddyfais mecanyddol (neu electro-fecanyddol, bellach) sy'n galluogi'r defnyddiwr i 'deipio' pan fo botwm ar fysellfwrdd yn cael ei bwyso ydy'r teipiadur. Y canlyniad i hyn yw marc inc ar bapur: naill ai lythyren neu rif, fel arfer.

Roedd teipiaduron yn bethau hanfodol mewn busnes a diwydiant drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Tua diwedd yganrif, fodd bynnag, roedd y gallu i 'brosesu' a 'chofio' gwybodaeth ar gyfrifiaduron personol yn araf gymryd drosodd o'r teipiadur mecanyddol.

Ymhlith gwneuthurwyr y teipiadur y mae Remington and Sons, IBM, Imperial typewriters, Smith Corona a theipiaduron Olivetti.

Oriel

  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato