Baner Malawi

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:32, 19 Ionawr 2010 gan Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)

Baner drilliw lorweddol gyda stribed is gwyrdd, stribed canol coch, a stribed uwch du gyda symbol coch y kwacha yn ei ganol yw baner Malawi. Lliwiau Plaid Gynres Malawi (MCP), wnaeth ennill annibyniaeth i Falawi yn 1964, yw lliwiau'r faner: cynrychiola tir y wlad gan wyrdd, y gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid gan goch, ac etifeddiaeth Affricanaidd Malawi gan ddu. Mae baner yr MCP yn seiliedig ar faner Ban-Affricanaidd Marcus Garvey, sy'n symboleiddio dadeni Affricanaidd. Symbol o godiad yr haul yw'r kwacha, sydd hefyd yn cynrychioli dadeni.

Baner Malawi

Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)