Gemau'r Gymanwlad
Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y Gymanwlad ydy Gemau'r Gymanwlad (a elwid yn Gemau Ymerodraeth Prydain (1930-1950), Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad (1954-1966) ac yn Gemau'r Gymanwlad Brydeinig (1970-1974).[1] Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn Hamilton, Ontario, Canada ym 1930 a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr Ail Ryfel Byd). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y Gemau Olympaidd a Gemau Asia.
Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.
Yn ogystal a nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys chwaraeon sy'n fwy poblogaidd yng Ngwledydd y Gymanwlad, fel bowlio lawnt, pêl-rwyd a rygbi saith bob ochr.
Er mai dim ond 53 o wledydd sydd yn aelodau o'r Gymanwlad, mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad Y Deyrnas Unedig; Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn cystadlu fel gweldydd arwhân gyda Thiriogaethau tramor y Deyrnas_Unedig a Thiriogaethau sy'n ddibynnol ar Goron y Deyrnas Unedig hefyd yn gyrru timau.
Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.
Gwreiddiau
Cynigiwyd y syniad o gystadlaethau o fewn Ymerodraeth Prydain yn gyntaf gan y Parchedig Astley Cooper yn 1891 pan ysgrifennodd erthygl yn The Times yn awgrymu y dylid cynnal cystadleuaeth "Pan-Britannic-Pan-Anglican Contest and Festival pob pedair blynedd er mwyn gwella dealltwriaeth a chyfeillgarwch yr Ymerodraeth Brydeinig.
Yn ystod Gŵyl yr Ymerodraeth i ddathlu coroni Brenin Siôr V ym 1911, trefnwyd cyfarfod chwaraeon rhyngwladol gyda athletwyr o Awstralia, Canada, De Affrica a Phrydain yn cystadlu am dlws Yr Arglwydd Lonsdale mewn pum camp: athletau, bocsio, nofio a reslo.
Yna yn dilyn cyfarfod ymysg athletwyr a swyddogion gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod Gemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam penderfynwyd atgyfodi'r Gemau gyda Canada, fel y wlad fuddugol ym 1911 y cael y fraint o gynnal y Gemau agoriadol.
Yn ogystal â'r tîm cartref, cafwyd timau o'r Alban, Awstralia, Bermiwda, Cymru, De Affrica, Gaiana Brydeinig, Iwerddon, Lloegr, Newfoundland a Seland Newydd.
Cynhaliwyd y Gemau Paraplegig y Gymanwlad am y tro cyntaf ym 1962 a chafodd athletwyr anabl eu cynnwys yng Ngemau'r Gymanwlad 1994 yn Victoria, Canada mewn campau arddangos cyn cael eu cynnwys fel rhan anatod o'r cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion, Lloegr.
Boicotiau
Er diarddel De Affrica o'r Gymanwlad ym 1961 oherwydd system apartheid y wlad, gwrthododd 26 o wledydd Affrica rhag cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Montreal ym 1976 wedi i dîm rygbi Seland Newydd fynd ar daith i Dde Affrica. Parhaodd Nigeria eu boicot gan wrthod mynychu Gemau'r Gymanwlad 1978 yn Edmonton, Canada.
Ym 1986, gwelwyd 32 o wledydd Affrica a'r Caribi yn boicotio Gemau'r Gymanwlad 1986 yng Nghaerdin, Yr Alban wedi i Brif Weinidog Y Deyrnas Unedig, Margaret Thatcher, wrthod condemnio cysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica.[2]
Cenhedloedd a Thiriogaethau
Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o'r Gemau; Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.
|
|
Nodiadau:
1: Gadawodd Aden a ailenwid yn De Arabia y Gymanwlad yn 1968.
2: Cafodd Yr Arfordir Aur ei ail enwi yn Ghana ym 1962
3: Cafodd Hondwras Prydeinig ei ail enwi yn Belîs yn 1973.
4: Cafodd Ceylon ei ail eniw yn Sri Lanca yn 1972.
5: Creodd De Rhodesia a Gogledd Rhodesia ffederasiwn gyda Nyasaland yn 1953 fel Rhodesia a Nyasaland, parhaodd hyn tan 1963.
6: Ymunodd Malaya, North Borneo, Sarawak a Singapôr i greu ffederasiwn Maleisia yn 1963. Gadawodd Singapôr y ffederasiwn yn 1965.
Gadawodd y gymanwlad pan roddwyn nôl i Tsieina yn 1997.
7: Ym 1930 cafwydd tîm o Ynys Iwerddon ac ym 1934 cafywd tîm oedd yn cynrychioli Iwerddon Rydd a Gogledd Iwerddon. Gadawodd Gweriniaeth Iwerddon y Gymanwlad yn 1949.
8: Cafodd Gaiana Brydeinig ei ail enwi yn Gaiana ym 1966.
9: Gadawodd y Gymanwlad ar ôl ail ymuno â China ym 1997.
10: Cystadlodd Malawi, Sambia a Simbabwe fel rhan o Rhodesia and Nyasaland rhwng 1958-1962.
11: Ymunodd â Chanada yn 1949.
12: Ymunodd Zanzibar a Tanganyika i greu ffederasiwn Tansanïa yn 1964.
13: Gadawodd Simbabwe y Gymanwlad yn 2003.
Campau Gemau'r Gymanwlad
Mae 10 o chwaraeon craidd, sef campau sydd rhaid eu cynnwys ar raglen Gemau'r Gymanwlad:
Yn ogystal â'r 10 o chwaraeon craidd, gall trefnwyr ddewis hyd at saith o chwaraeon dewisol:
- Beicio (Lôn a/neu Trac a/neu Mynydd)
- Bowlio Deg
- Canwio
- Gymnasteg (Artistig a/neu Rhythmig)
- Hwylio
- Jiwdo
- Nofio Cydamserol (fel rhan o'r rhaglen Dyfrol)
- Nofio Dŵr Agored (fel rhan o'r rhaglen Dyfrol)
- Pêl-fasged (Dynion a Merched)
- Pêl-feddal (Dynion a Merched)
- Pêl-foli Traeth (Dynion a Merched)
- Plymio (fel rhan o'r rhaglen Dyfrol)
- Reslo
- Rhwyfo
- Saethyddiaeth
- Saethu (Colomenod Clai a/neu Calibr Llawn a/neu Pistol a Calibr Bychan),
- Tenis Bwrdd
- Tenis
- Taekwondo
- Triathlon
Mae'n angenrheidiol hefyd, cynnwys pedwar chwaraeon ar gyfer Athletwyr Elît gydag Anabledd (EAD). Cyflwynwyd y rheol yma yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion, Lloegr:
Yn ogystal â'r pedwar para-chwaraeon craidd, gall trefnwyr ddewis hyd at dri o'r chwaraeon dewisol:
Cyfeiriadau
- ↑ "The Story of the Commonwealth Games". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Commonwealth Games. Is there a Plan B?". 2013-08-22. Unknown parameter
|Published=
ignored (help)
Dolenni allanol
Gwledydd
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Awstralia
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Ynys Manaw
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Lloegr