Yr Almaen

gwlad yng nghanolbarth Ewrop
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:48, 12 Medi 2015 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)

Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland "Cymorth – Sain" ynganiad Almaeneg ). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.

Bundesrepublik Deutschland
Gweriniaeth Ffederal Yr Almaen
Baner yr Almaen Arfbais yr Almaen
Baner Arfbais
Arwyddair: Einigkeit und Recht und Freiheit
(Almaeneg: "Undeb a chyfiawnder a rhyddid”)
Anthem: Y trydydd pennill o Das Lied der Deutschen
Lleoliad yr Almaen
Lleoliad yr Almaen
Prifddinas Berlin
Dinas fwyaf Berlin
Iaith / Ieithoedd swyddogol Almaeneg 1
Llywodraeth Gweriniaeth ffederal
 • Arlywydd
 • Canghellor
Joachim Gauck
Angela Merkel
Hanes gwladwriaethol
 • Yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd
 • Ymerodraeth Almaenaidd
 • Gweriniaeth ffederal
 • Uniad

 
843 (Cytundeb Verdun)
 
18 Ionawr 1871
 
23 Mai 1949
3 Hydref 1990
Esgyniad i'r UE25 Mawrth, 1953 (Gorllewin yr Almaen)
31 Hydref, 1990 (Dwyrain yr Almaen)
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
357,050 km² (63fed)
2.416
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
82,689,000 (14fed)
N/A
2000/km² (34fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$2,521,699 miliwn (5ed)
$30,579 (17fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.930 (20fed) – uchel
Arian cyfred Ewro (€) 2 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .de
Côd ffôn +49
1 Cydnabyddir a gwarchodir yr ieithoedd lleiafrifol Daneg, Sorbeg, Romaneg a Ffrisieg. Gwarchodir Isel Almaeneg (Plattdeutsch) gan yr Undeb Ewropeaidd.
2 Cyn 1999: Deutsche Mark

Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr ugeinfed ganrif.

Hanes

Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius ym Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.

Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9fed ganrif, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slovenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogledd yr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16eg ganrif, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".

Rhwng 1618 a 1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia.

Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna ffurfiwyd Ymerodraeth yr Almaen yn 1871, gydag Otto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffodd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd.

Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 1939 - 1945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan adunwyd y wlad.

Daearyddiaeth

Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan o Wastadedd Canolbarth Ewrop. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, y Zugspitze, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.

Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys Afon Rhein, Afon Elbe, Afon Weser ac Afon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd. Y llyn mwyaf yw'r Bodensee, er nad ydyw yn ei gyfanrwydd yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Almaen.

Gwleidyddiaeth

Economi

Demograffeg

 
Pyramid poblogaeth yr Almaen yng Nghyfrifiad 2000.

Poblogaeth yr Almaen 1961–2003 (Cyn 1990, poblogaeth Gorllewin a Dwyrain yr Almaen wedi eu cyfuno).

Gyda phoblogaeth o tua 82,220,000, yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda phobl o dras Tyrcaidd y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn 2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.

Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "lleiafrifoedd cenedlaethol", y Daniaid, Frisiaid, Roma a Sinti, a'r Sorbiaid. Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y 1960au bu mewnfudo Almaenwyr ethnig o Casachstan, Rwsia a'r Wcrain. Er i'r rhan fwyaf o Iddewon yr Almaen gael eu llofruddio yn yr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda thros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers 1991.

Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:

Crefydd

Y prif enwadau a chrefyddau yw:

Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne Bafaria, ac yn ardal Cwlen, tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.

Taleithiau

Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land):

Baner Talaith Prifddinas Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth Dwysder
poblogaeth
(EW/km²)
  Baden-Württemberg Stuttgart 35,752 10,736,000 300
  Bafaria München 70,552 12,469,000 177
  Berlin 892 3,395,000 3,806
  Brandenburg Potsdam 29,479 2,559,000 87
  Bremen  Bremen 404 663,000 1,641
  Hamburg  755 1,744,000 2.309
  Hessen Wiesbaden 21,115 6,092,000 289
  Mecklenburg-Vorpommern Schwerin 23,180 1,707,000 74
  Niedersachsen Hannover 47,624 7,994,000 168
  Nordrhein-Westfalen Düsseldorf 34,085 18,058,000 530
  Rheinland-Pfalz Mainz 19,853 4,059,000 204
  Saarland Saarbrücken 2,569 1,050,000 409
  Sachsen Dresden 18,416 4,274,000 232
  Sachsen-Anhalt Magdeburg 20,446 2,470,000 121
  Schleswig-Holstein Kiel 15,799 2,833,000 179
  Thüringen Erfurt 16.172 2,335,000 144
Cyfanswm 357,114 82,438,000 231
Lleoliad Yr Almaen yn Ewrop
Lleoliad Yr Almaen yn Ewrop




Chwiliwch am Yr Almaen
yn Wiciadur.


    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.