C.P.D. Tref Caerfyrddin
Mae Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen Town Football Club) yn Glwb Peldroed, yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Ffurfwyd y clwb yn 1948 a maent yn chwarae ar Barc Waundew, Caerfyrddin. Lliwiau'r clwb ydi Aur a Du.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Hen Aur | ||
Sefydlwyd | 1948 | ||
Maes | Parc Waundew, Caerfyrddin | ||
Cadeirydd | Jeff Thomas | ||
Rheolwr | Mark Jones | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||
4ydd | |||
|
Hanes
Gafodd y clwb ei ethol i'r Gynghrair Cymreig yn 1953 a enill dyrchafiad i'r adran gyntaf yn 1960. Yn 1996 bu i'r clwb enill Cynghrair y De a felly dyrchafiad i'r Uwchgynghrair. Mae nhw wedi aros ynddi ers hynny, ac ymysg eu llwyddiannau ydi ymddangosiad yn rownd derfynnol Cwpan Cymru yn 1999 a 2005, ond colli'r ddwy. Roedd eu hymddangosiad yn 2005 yn ddigon i sicrhau lle yng Nghwpan UEFA ar gyfer 2005/06, lle bu iddynt wynebu Longford o'r Iwerddon. Er iddynt golli 2-0 oddi-cartref, ddoth y clwb yn ol yn yr ail gymal i chwalu Longford 5-1 ym Mharc Latham, Y Drenewydd i gyrraedd y rownd nesaf. FC Copenhagen o Denmarc oedd eu gwrthwynebwyr nesaf, a oedd rhy gryf gan iddynt guro 4-0 er i Gaerfyrddin roi perfformiadau cloadwy.
Y tymor canlynol wnaeth y clwb ymddangosiad yng Nghwpan Inter-Toto ond colli o 8-1 yn erbyn Tampere o'r Ffindir oedd eu tynged.