Mario Monti
Prif Weinidog yr Eidal ers 16 Tachwedd 2011 yw Mario Monti (Ynganiad Eidaleg: [ˈmaːrjo ˈmonti] (ganwyd 19 Mawrth 1943). Mae'n economegydd ac yn ysgolhaig yn ogystal a bod yn Ysgrifennydd Economeg a Chyllid y wlad. Cafodd ei eni yn Varese.
Mario Monti | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 16 Tachwedd 2011 | |
Rhagflaenydd | Silvio Berlusconi |
---|---|
Geni | 19 Mawrth 1943 Varese, Lombardia |
Plaid wleidyddol | Annibynnwr |
Priod | Elisa Antonioli |
Plant | Federica a Giovanni |
Alma mater | Prifysgol Bocconi Prifysgol Yale |
Crefydd | Catholig Rufeinig |
Bu'n Gomisiynydd Ewropeaidd rhwng 1995 a 2004, gyda chyfrifoldeb dros farchnad mewnol y wlad, a gwasanaethau a thollbyrth a threthi rhwng 1995 a 1999. Rhwng 1995 a 2004 ychwanegodd yr adran "Gystadleuaeth" i'w bortffolio. Yn y gorffennol mae wedi bod yn flaenllaw ym Mhrifysgol Bocconi. Penodwyd ef yn Seneddwr Oes gan Senedd Llywodraeth yr Eidal ar 9 Tachwedd 2011 a gwahahoddwyd ef ychydig wedyn gan yr Arlywydd Giorgio Napolitano i arwain y Llywodraeth. Roedd hyn yn dilyn ymddiswyddiad Silvio Berlusconi.
Gweler hefyd
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Silvio Berlusconi |
Prif Weinidog yr Eidal 16 Tachwedd 2011 – presennol |
Olynydd: deiliad |