Duhonw

cymuned ym Mhowys
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:52, 23 Ionawr 2013 gan John Jones (sgwrs | cyfraniadau)

Cymuned ym Mhowys, yw Duhonw. Saif i'r de o dref Llanfair-ym-Muallt, o gwmpas Afon Duhonw, sy'n rhoi ei henw i'r gymuned. Ffurfir ffin ddwyreiniol y gymuned gan Afon Gwy a'i ffin ogleddol gan Afon Irfon; mae'n ffinio ar Fynydd Epynt yn y de.

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanddewi'r Cwm a Maesmynys. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 300.

Credir fod gan y gymuned gysylltiad gydag Ystrad Fflur, yn enwedig y fferm "Aberduhonw". Adeiladwyd Abercynithon gan Edward Price a fu hefyd yn gyfrifol am adeiladu Llanfair-ym-Muallt wedi tân yn 1691.