System weithredu diweddaraf cyfrifiaduron Apple Macintosh yw Mac OS X. Mae'n olynydd i Mac OS, sef system weithredu gwreiddiol Apple ers 1984. Yn wahanol i'w rhagflaenwyr, mae Mac OS X yn system weithredu sy'n seiliedig ar UNIX, wedi'i adeiladu ar dechnoleg o'r enw NeXTstep a ddatblygwyd gan cwmni NeXT . Sefydlwyd NeXT gan Steve Jobs (nawr yn Prif Weithredwr Apple) pan orfodwyd iddo ymddiswyddo o Apple yn 1985. Prynnwyd NeXT (a elwir yn OPENSTEP yn erbyn hynny) gan Apple prynu yn 1997 wedi i Apple benderfynu bod technoleg y cwmni yn dewis addas i selio ei system weithredu newydd arno.

Rhyddhawyd y fersiwn cyntaf (yn targedu gweinyddion), Mac OS X Server 1.0, yn 1999. Rhyddhawyd y fersiwn ar gyfer y bwrdd gwaith, Mac OS X fersiwn 10.0, yn Mawrth 2001. Ers hwnnw, mae pump fersiwn arall wedi cael eu rhyddhau, y diweddaraf yw'r Mac OS X v10.5 yn Hydref 2007. Mae pob fersiwn o Mac OS X wedi'u henwi ar ôl cathod mawr, er enghraifft mae'r Mac OS X v10.5 yn cael ei alw'n "Leopard".

Dolenni allanol

  Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.