Cafodd NASA (sef: National Aeronautics and Space Administration) ei sefydlu ym 1958 er mwyn creu corff i reoli rhaglen gofod yr Unol Daleithiau. Lleolwyd ei bencadlys yn Houston, Texas, er y ffaith bod y rhan fwyaf o'i rocedi yn cael eu lawnsio o Cape Canaveral yn Florida a lleoliadau eraill yn UDA.

Arwyddlun NASA

Gofodwyr yn y gofod

Cafodd y gofodwyr Americanaidd cyntaf eu lansio gan rocedi Mercury, Atlas, Titan a Saturn yn y 1960au; daeth yr adran hon o'r 'Space Race' i ben ym 1969, pan lwyddodd Neil Armstrong a Buzz Aldrin i lanio ar y lleuad yn y modiwl lloerol, Yr Eryr. Gwelwyd hyn fel llwyddiant propaganda mawr gan yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Oer.

Ym 1973, lansiodd NASA orsaf ofod gyntaf America, sef Skylab. Ymwelodd criw o dri â'r orsaf rhwng 1973 a 1974, gan dreulio eu hamser yn defnyddio telesgop i dynnu lluniau o'r ddaear, a gwneud arbrofion.

Ym 1981, cafodd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ei lansio. Adeiladwyd 4 o wenoliaid i gychwyn, ond ar ôl colled Challenger mewn damwain ym 1986, penderfynwyd adeiladu un arall, Endeavour. Cafodd Columbia ei ddinistrio yn 2003.

Chwiliedyddion gofod

Mae NASA wedi bod yn gyfrifol hefyd am anfon chwiliedyddion gofod i fforio sawl planed yng Nghysawd yr Haul, gan gynnwys Viking 1 a 2 (1976-9; Mawrth); Pioneer 10 a Pioneer 11 (1972-; Iau a Sadwrn); Galileo (1989-2003; Iau); ac eraill.

Cyfeiriadau

  • The Cambridge Encyclopedia of Space: Missions, Applications and Exploration (Fernand Verger ac eraill, Caergrawnt, 2003).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: