Brian David Josephson

Cymro ac enillydd Gwobr Nobel mewn ffiseg
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:25, 15 Mai 2011 gan EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)

Ffisegydd Cymreig yw'r Athro Brian David Josephson (ganwyd 4 Ionawr 1940), sydd yn arbenigo mewn tra-ddargludedd ac hefyd yn ddadleuwr amlwg dros y posibilrwydd o fodolaeth ffenomena paranormal. Ganwyd ef yng Nghaerdydd lle y mynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd cyn mynd i Goleg y Drindod, Caergrawnt.

Brian David Josephson
GalwedigaethFfisegydd

Yng Nghaergrawnt, pan oedd yn 22 oed, darganfyddodd Effaith Josephson, sef y ffenomenon o lif cerynt ar draws dau dra-ddargludwr a wahenir gan ynysydd tenau iawn. O ganlyniad i'r darganfyddiad, enillodd Wobr Ffiseg Nobel yn 1973 ar y cyd â Leo Esaki ac Ivar Giaever.

Ar hyn o bryd, mae'n athro ym Mhrifysgol Caergrawnt lle mae'n bennaeth ar y prosiect uniad meddwl a mater o fewn grŵp ymchwil Theori Mater Cyddwysedig.

Dolenni Allanol

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.