Cymbrieg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Fodbynag (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 27:
Nid yw’n bosibl rhoi dyddiad dibynadwy ar gyfer marwolaeth Cymbrieg. Fodd bynnag, mae ffeithiau ar gael sydd yn rhoi awgrymiadau. Yng nghanol y 11fed ganrif mae arglwyddi sydd ag enwau sy’n ymddangos yn Gymbrieg. Er enghraifft mae Dunegal (Dyfnwal) arglwydd Strathnith (Ystrad Nidd, neu Nithsdale)<ref> Oram, R.(2000): The Lordship of Galloway, Edinburgh: John Donald</ref>, Moryn (Morien) argwlydd Cardew (Caerddu) a Cumdivock (Cwm Dyfog) ger Caerliwelydd ac Eilifr (Eliffer), arglwydd Penrith (Penrhudd) <ref> Phythian-Adams, Charles (1996): Land of the Cumbrians, Aldershot: Scolar Press </ref>.
 
Mae pentefpentref ger Caerliwelydd o’r enw Cumwhitton, gynt Cumquinton. Mae’n ymddanogos ei fod yn cynnwys enw Normanaidd ''Quinton'' <ref name=PNCu>Armstrong, A. M., Mawer, A., Stenton, F. M. and Dickens, B. (1952) The Place-Names of Cumberland. Cambridge: Cambridge University Press. </ref>. Ni fu Normaniaid yn y cyffiniau cyn 1069. Hefyd ni chodwyd y castell ym mhentref Castle Carrock (Castell Caerog) tan 1160-1170 ac y mae’r gair ''castell'' yn tarddu o’r Ffrangeg. Rhoddwyd tir Barmulloch ger Glasgau i’r eglwys gan frenin Mael Choluim IV rhwng 1153-1165. Barmulloch (''Badermonoc'' gynt) yw'r Gymbrieg ''*bod ir monoch'' (bod y mynach). Sefydlwyd yr abaty yn Lanercost (Llannerch Awst) ger Caerliwelydd (ym 1170 gan fynaich Awstinaidd. Ai cyd-ddigwyddiad yn unig yw enwi'r llannerch ar ôl Awst (nad yw yn enw cyffredin)?
 
Ym mrwydr Northallerton in 1138, nodir ''Wallenses'' Ystrad Clud fel grwp ethnig ar wahân. Gan fod ei diwylliant materol yn debyg iawn i’w cymdogion Gaeleg a Seisnig, anodd gweld pa beth ond iaith y gellir eu dynodi fel poblogaeth wahanol.
Llinell 33:
Mae Wallace yn gyfenw Sgotaidd. Mae’n golygu ''Cymro'' ac mae’r ansoddair ''wallis'' yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol i ddynodi Brythoniaid Ystrad Clud. Nid oedd cyfenwau yn yr Alban yn cael eu hetifeddu cyn 1200 ymhlith y bonheddwyr ac nid yn rheolaidd tan ar ol 1400. Lladdaodd William Wallace siryf Lanark ym 1297. Hyd yn oed os etifeddodd ei gyfenw oddi wrth ei dad, mae’n debyg bod y teulu yn siarad Cymbrieg neu Gymraeg o fewn cof er mwyn cael eu henwi felly. Hynny, neu bob teulu Wallace wedi mewnfudo o Gymru yn y Canol Oesoedd.
 
Mae hefyd arwyddion hanesyddol i fodolaeth Cymry Ystrad Clud fel grŵp ar wahân yn y Canol Oesoedd. Cyn ei goroni yn frenin yr Alban, teitl Dafydd I yr Alban oedd Tywysog y Cymry (Lladin: ''Cumbrorum''). Pan gyhoeddai Wiliam I (Brenin yr Alban) ei ddogfenni, nodai y Cymry fel poblogaeth o fewn ei wlad (yn ogystal â Saeson, Ffrancwyr a Gwyddyl). Nid yw hyn yn dangos bod y ''Cumbrenses'' yn dal i siarad Cymbrieg wrth gwrs <ref name=Broun> Broun, Dauvit (2004): ‘The Welsh identity of the kingdom of Strathclyde, ca 900-ca 1200’, Innes Review 55, pp 111-80.</ref>.
 
Mae dogfenni o Abaty Lanercost sy'n dyddio o hwyr yn y 12fed ganrif yn methu dangos enwau personol Cymbrieg. Uchelwyr yw’r rhain wrth gwrs, ond mae'n awgrymu nad oedd Cymry yn dal yn berchnogion tir. <ref name=Todd> Todd, J. M. (ed.) (1991) The Lanercost Cartulary, Carlisle: CWAAS </ref>. Gan fod Seisnigeiddio’r uchelwyr wedi digwydd ym mhob man cyn bod y werin yn newid iaith, mae’n bosibl bod pobl gyffredin yr ardal yn dal i siarad Cymbrieg. Tua 1200 mae rhestr o ddynion o dref Peebles (Pebyll). Yn eu plith mae enwau Cymbrieg fel Gospatrick (gwas Padrig), Gosmungo (gwas ‘’Mungo’’ neu Cyndeyrn Sant), Guososwald a Goscubrycht (gwas Cybricht neu Cuthbert). Nid yw’n arferol I roi ''gwas'' o flaen enw sant i ddangos dyn sy’n dilyn y sant hwnnw yn Gymraeg Cymru. Mae’n arferiad o fewn Gaeleg fodd bynnag. Hefyd daw dau sant – Oswallt a Cybricht o Northumbria) sy’n felly yn dangos dylanwadau ar Gymbrieg nas ceir ar Gymraeg.